{kowydd y drych}
1 Ni thybiais ddewrdrais ddirdra
2 na bai deg v'wyneb a da
3 oni syniais yn amlwg
4 yn y drych llyna vn drwg
5 yna dywod or diwedd
6 y drych nad wyf wych o wedd
7 melynv am ail Enid
8 y mae'r grudd nid mawr y gwrid
9 gwedr yw'r grudd gwedir griddvan
10 a chlais melynlliw achlan
11 odid na ellid ellyn
12 or trwyn hir pan truan hyn
13 ond diriaid bod llygaid llon
14 yn dyllau terydr deillion
15 ar phlvwch bengrech ledechwyrth
16 bob ddyrnaid oi said a syrth
17 mawr arnaf naid direidi
18 y mae'r naill ar y marn i
19 ai 'mod yn gwifr arddifrych
20 natur drwg ai nad da'r drych
21 os arnaf drwy naws hirnwyf
22 y mae'r bai yn varw y bwyf
23 os ar y drych brych o bryd
24 y bu'r bai wb or bywyd
25 lleuad lasgron gwmpas graen
26 llawn o hud llvn ehedvaen
29 bid vreuddwyd byd afrwydda
30 browdwr yw a brawd yr ia
27 hadlyd liw hudol o dlws
28 hudolion ai hadeilws
31 falsa gwir ddiwyna gwas
32 flamm vo'r drych mingam meingas
33 ni'm gwnaeth neb yn wynepgrych
34 os gwir coeliaw draw ir drych
35 onid y verch o Wynedd
36 yna gwys ddiwyno gwedd
Dauid ap Gwilim